Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o frandiau blaenllaw ar draws amrywiaeth o gategorïau, gan ddarparu ar gyfer pob chwaeth a gofynion ymborthol.
Seigiau cyffrous ac sydd yn cadw i fyny gyda’r diweddaraf ar gyfer tai bwyta mewn amryw ddulliau cogionio a ellir eu gwerthu ar draws nifer o fannau gwerthu sy’n cyfareddu eu cwsmeriaid.
Cwrdd â safonau uchel cwsmeriaid manwerthu gyda seigiau a phrydau label preifat sy’n cyfoethogi’r brand.
Seigiau tymhorol sy’n blasu fel prydau cartref ac sydd wedi eu llunio i gael eu rhoi allan mewn modd syml a chyflym yn gyson ar draws yr holl dafarndai.
Bwyd o ansawdd uchel wedi ei baratoi ymlaen llaw a ellir ei integreiddio yn rhwydd i gydfynd â’r diwydiant arlwyo lle mae amser yn gwbl allweddol.
Datblygu a chreu cynnyrch newydd arloesol ac amrediadau o’r cychwyn cyntaf mewn partneriaeth neu ar ran cwmnïau bwyd.
Mae ein datblygu cynnyrch newydd a chynhyrchu yn y farchnad yma sy’n tyfu yn eich cynorthwyo chi i adeiladu teyrngarwch i’ch brand gyda’ch cwsmeriaid.
Gan weithio o fewn amserlenni hyblyg a thynn, rydym yn dod â chyfansoddion sydd wedi eu coginio ymlaen llaw i’ch cyfleusterau cynhyrchu i ffitio i mewn i’r broses weithgynhyrchu yn rhwydd.
Seigiau o werth uchel, ansawdd uchel , ar gyfer ciniawa moethus wedi eu creu gan dalu sylw i fanylder ar gyfer digwyddiadau ac achlysuron.
Prydau ffres a chofiadwy o giniawa moethus i rai teuluol gyfeillgar, ar gael wedi eu cyflenwi mewn swmp i gydfynd â phob cyllideb.
Prydau wedi eu paratoi mewn niferoedd mawr sydd wedi eu darparu ar gyfer pob math o anghenion ymborthol i gydfynd â phob chwaeth a chyllideb.
Creu seigiau a ellir eu paratoi yn gyflym, ac sydd eto yn gofiadwy ar gyfer cwsmeriaid sy’n teithio heb dorri unrhyw gornelydd.