X

Datblygu Cynnyrch Newydd

Mynd â’ch gweledigaeth o’r cychwyn i’r blât. Mae ein cogyddion datblygu a’n timau technegol arbenigol sy’n gweithio i’r cwmni yn gweithio’n agos gyda chi i lunio, cynllunio a chyflawni eich gweledigaeth o pan nad yw ond yn syniad hyd at ei lansio.

Concept

Syniad Cychwynol

Mae ein tîm datblygu cynnyrch newydd hynod fedrus ni yn gweithio gyda chi i ysbrydoli cynnyrch newydd a syniadau bwydlen newydd sy’n arwain yn y farchnad. Gan ddefnyddio eu gwybodaeth o’r diwydiant byddant yn cymryd syniadau a chysyniadau cyffrous i greu eich bwydlen a rysetiau delfrydol, wedi eu teilwrio i’ch anghenion chi.

Food Research

Ymchwil

Rydym yn defnyddio ein profiad diwydiannol o dueddiadau bwyd byd eang ac ymchwili gategorïau i daflu goleuni gwerthfawr er mwyn sicrhau y bydd eich cynnyrch yn parhau yn hir ac yn aros ar flaen y gystadleuaeth.

Food Development

Datblygiad

Cyn gynted ag y mae’r weledigaeth yn ei lle, mae ein tîm datblygu cynnyrch newydd yn dechrau ar y broses o ddatblygu rysetiau wedi eu teilwrio, gan eich cadw chi i fyny gyda’r datblygiadau bob cam o’r ffordd. Mae ein maethegwyr yn dadansoddi pob cynnyrch er mwyn sicrhau fod y seigiau terfynol yn faethol gytbwys ac yn flasus. ‘Rydym yn defnyddio’r cynnyrch moesegol o’r ansawdd orau yn ein holl seigiau ac yn cwrdd â phob angen ymborthol a chwaeth. O gydau aml-gyfrannol i gynwysyddion cynaliadwy, byddwn yn sicrhau pacio o’r safonau uchaf i roi’r argraff orau i’ch cynnyrch.

Assessment

Asesiad

Mae ein tîm sydd wedi ennill gwobrwyon yn sicrhau fod eich cynnyrch yn cwrdd â’r holl reoliadau o ran safonau cynaliadwyedd a chydymffurfio â gofynion lles. Yn y cam olaf cyn y lansiad, rydym yn profi eich cynnyrch yn drylwyr yn erbyn amryw feincnodau yn cynnwys oes shilff cyn cyflwyno eich syniad bwydlen yn ôl i chi. Rydym yn gwneud adolygiad masnachol wedi ei gefnogi gan strategaeth er mwyn sicrhau fod eich saig yn hyfyw yn fasnachol, gan eich helpu chi i gael cymint o werthiannau â phosibl, ennyn brwdfrydedd cwsmeriaid ac adeiladu teyrngarwch i’r brand.

Mynd â syniad gwych o’r cychwyn i’r blât

Cysylltwch â ni