Fe’n sefydlwyd yn 1924 pan ddechreuodd Thomas Roberts wneud pastai porc mewn siop gigydd fechan yn y Felinheli, Gogledd Cymru.
Fe’n sefydlwyd yn 1924 pan ddechreuodd Thomas Roberts wneud pastai porc mewn siop gigydd fechan yn y Felinheli, Gogledd Cymru. Y mae’n awr yn fusnes teuluol annibynol Cymreig sydd yn ei bedwaredd cenhedlaeth ac wedi bod yn llwyddiannus yn datblygu ac yn cynhyrchu bwydydd rhagorol am bron i 100 mlynedd. Y mae’r angerdd a’r sgil am ddatblygu cynnyrch newydd yn dal mor gryf heddiw ag yr oedd ganrif yn ôl.
Datblygir a chynhyrchir ein bwydydd yn y Felinheli, Gogledd Cymru, lleoliad bendigedig gyda golygfeydd anhygoel yn edrych dros lannau Afon Menai gyda mynyddoedd Eryri y tu ôl i ni. Mae wedi ei leoli ar arfordir Gogledd Cymru sydd heb ei difetha ac sydd rhwng Ynys Môn a thref Geltaidd hanesyddol Caernarfon.
Dim ond drwy ymroddiad a sgiliau ein holl dîm rydym ni’n gallu parhau gael ymddiriedaeth i arwain y ffordd o fewn y diwydiant bwyd. Gyda hyfforddiant, arloesedd a pharhau i fuddsoddi yn y dechnoleg cynhyrchu bwyd ddiweddaraf ‘rydym ni wedi cael cydnabyddiaeth o fri sef Safon Byd Eang Diogelwch Bwyd y Gymdeithas Manwerthu Prydeinig (BRC), Gradd: AA. Mae’r amgylchedd, y gymuned a lles ein cydweithwyr wrth galon popeth yr ydym yn ei wneud.
Tref Hanesyddol Caernarfon
ar lannau Afon Menai
Busnes teuluol
sefydlwyd yn 1924
Grwpiau tai bwyta
Arloeswyr cynnyrch newydd
Lletygarwch a chynhadledd
Trafnidiaeth a teithio | Gwasanaeth Bwyd
Cadwynau tafarndai | Cynhyrchwyr
Y sector hamdden | Sectorau cyhoeddus
Cyw Iâr | Cig Oen
Cig | Porc | Helfiod
Llysieuol | Fegan
Tîm Datblygu Cynnyrch Newydd yn gweithio i’r cwmni a chyfleusterau cynhyrchu bwyd
Safon Byd Eang Diogelwch Bwyd y Gymdeithas Manwerthu Prydeinig (BRC), Gradd: AA
Dosbarthiad ledled
Ewrop