X

Cynhyrchu Bwyd

Wedi ei wneud yng Nghymru. Golyga ein cyfleusterau 10 erw ar ein safle ein bod yn gallu cynhyrchu’r rhan fwyaf o fathau o gategoriau bwyd i chi. Gyda hyfforddiant, arloesedd a buddsoddiad parhaus yn y dechnoleg cynhyrchu bwyd ddiweddraf, mae gan ein cyfleusterau Safon Byd Eang Diogelwch Bwyd y Gymdeithas Manwerthu Prydeinig (BRC), Gradd: AA.

Cynhyrchu

Cyn gynted ag y mae manylion eich cynnyrch wedi ei gadarnhau, byddwn yn ei gyhyrchu are ich cyfer chi i’r rysait, nifer a’r amserlenni a gytunwyd. Gan fod gennym ni’r cyfleusterau i gynhyrchu bwyd ar y safle, rydym yn rheoli’r trefniadau yn y ffatri, gwneud y treialon llinell a rheoli’r archebion drostoch chi wrth iddynt ddod i mewn. Caiff archwiliad llawn ei wneud er mwyn sicrhau fod eich cynnyrch yn cwrdd â’r holl ganllawiau ansawdd a bod y ffatri yn cwrdd â’r holl fanylion yr ydych chi wedi eu pennu a gofyn amdanynt. Rydym yn gweithio gydag amryw bobl broffesiynol o fewn y gadwyn gyflenwi fel gallwn reoli dosbarthiad ledled y wlad os oes gofyn.

Launch

Lansiad

Bydd eich lansiad yn cael cefnogaeth lawn gan arbenigwyr. Rydym yn llunio llwybr critigol wedi ei deilwrio er mwyn sicrhau fod modd tracio pob cam o’r broses a bod eich lansiad yn aros ar ei drywydd.

Teyrngarwch i’r Brand

O syniadau bwydlen newydd i ddiweddaru cynnyrch sy’n bodoli’n barod, rydym ni’n eich cefnogi chi bob cam o’r brose, gan greu seigiau sy’n talu eu ffordd yn fasnachol, sy’n arloesol ac sy’n ennyn teyrngarwch i’ch brand.

Mynd â syniad gwych o’r cychwyn i’r blât

Cysylltwch â ni