X

News

Mae datblygu cynnyrch bwyd newydd yn allweddol i lwyddiant tai bwyta

Mae yna fwy na 1,400 o dai bwyta yn y Deyrnas Unedig wedi mynd i’r wal yn ystod y flwyddyn oddi ar Fehefin 2018 – gan danlinellu’r wasgfa ar giniawa hamddenol.

Arweiniodd y tŵf uchel a fu ar y sector giniawa hamddenol oddi ar argyfwng ariannol 2008 at farchnad ganolig a oedd â gormod o ddarparwyr, sy’n dal i fynd drwy ad-drefniad dramatig. 

Mae tai bwyta o bob maint wedi bod yn wynebu trafferthion o ganlyniad i fod yn rhy fawr, gwariant isel gan gwsmeriaid a chostau sy’n cynyddu’n fawr. Gwych o beth yw cael dilynwyr teyrngar ond os yw’r dilynwyr teyrngar hynny yn rhoi’r gorau i ddod allan mae yna broblem ar unwaith.

Proffwyda arbenigwyr mai dim ond tai bwyta sydd â theyrngarwch cryf i’w brand ac sydd â rhywbeth unigryw i’w gynnig fydd yn goroesi ar ôl yr ad-drefniad presennol.

Os yw eich categori bwyd chi yn edrych i ddatblygu cynnyrch newydd ysbrydoledig i’ch cynorthwyo chi i fod yn unigryw yn y farchnad heriol yma, rydym ni’n edrych ymlaen at y drafodaeth gyntaf gyda chi.

Mynd â syniad gwych o’r cychwyn i’r blât

Cysylltwch â ni