Cynaliadwyedd drwy bacio
Edmygwn yn fawr gynllun sy’n cael ei roi ar waith gan fanwerthwr blaenllaw yn y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â phacio gormodol.
Cael gwared o bob deunydd na ellir mo’i ailgylchu neu sy’n anodd ei ailgylchu
Lle nad oes modd cael gwared ohono, ei leihau i fod cyn lleiad â phosibl
Edrych i mewn i gyfleoedd newydd i’w ailddefnyddio ac os na allant wneud hynny:
Sicrhau fod y cyfan yn cael ei ailgylchu fel rhan o ddolen gaëdig.
Mae nhw’n dilyn y 4 cam o Gwaredu, Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu
Yma yn Roberts o Bort Dinorwic rydym ni bob amser yn edrych am ffyrdd o wella ein prosesau a gwarchod ein hamgylchedd ac rydym yn clodfori sefydliadau eraill sy’n gwneud ymdrechion o’r fath.